Cyfarfodydd

P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid ym mhob ysgol, ei bod yn glir ynghylch y ffordd benodol y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gan gynnwys yr angen am adolygiad o fewn addysg gynradd i ddeall yr heriau’n well.

 

O ganlyniad i’r ymateb hwn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.