Cyfarfodydd

P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd y byddai’n cyhoeddi adroddiad ar y dystiolaeth a glywyd yn ymwneud â’r ddeiseb hon.

 


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Robin Waddell, Cyfarwyddwr Datblygu Greenbelt

 

Adam Cooper, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Grŵp Greenbelt

 

Colin Thomson, Rheolwr Gyfarwyddwr Greenbelt

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robin Waddell, Cyfarwyddwr Datblygu Greenbelt, Adam Cooper, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Grŵp Greenbelt a Colin Thomson, Rheolwr Gyfarwyddwr Greenbelt.

 


Cyfarfod: 23/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol.

Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio – Cyngor Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio, Cyngor Caerdydd.

 


Cyfarfod: 23/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.

 


Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Mark Harris – Home Builders Federation

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Harris, Cynghorydd cynllunio a pholisi ar gyfer y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yng Nghymru

 


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1307 A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor, fel y cytunwyd yn flaenorol, y byddai’n ymweld ag ystâd Cwm Calon yn Ystrad Mynach gyda Hefin David AS ar 26 Mehefin.

 


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Cylch gorchwyl – P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a bydd yn cynnal ymchwiliad ar y mater cyn diwedd tymor yr haf.

 


Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth, a chytunodd i baratoi papur cwmpasu i amlinellu cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad ar y mater.

 


Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol.

Hefin David MS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hefin David AS. Mae Mr David yn ymgyrchydd ar y mater hwn a cheisiodd gyflwyno deddfwriaeth yn hyn o beth yn y gorffennol.

 


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Helpodd i hyrwyddo'r ddeiseb ac mae'n un o'r llofnodwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wahodd Hefin David AS i rannu ei ddiddordeb yn y maes hwn, a’i ddealltwriaeth ohono, fel cam cyntaf. Yn dilyn y sesiwn honno, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n edrych ar bapur cwmpasu i weld sut olwg fyddai ar ymchwiliad i’r mater.