Cyfarfodydd
NDM8113 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc
NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod
Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb
brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn cyfarwyddo'r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i
gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel
"coch: galwadau sy'n bygwth bywyd ar unwaith" o dan y Model
Ymateb Clinigol.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn
nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn
gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y
Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys
sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn cyfarwyddo'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad
i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel "coch: galwadau sy'n
bygwth bywyd ar unwaith" o dan y Model Ymateb Clinigol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8113 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y
Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys
sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y
Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau
canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.