Cyfarfodydd
NDM8091 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti cynyddol
yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw
waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod
gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin
2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd
cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg
darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu
digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn
rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:
a) rhewi rhenti yn y
sector rhentu preifat;
b)
gosod moratoriwm ar droi pobl allan.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r
argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i
godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans
tai lleol yng Nghymru.
Yn cydnabod:
a) bod tenantiaid
cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;
b) o 1 Rhagfyr bydd y
Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael
eu troi allan;
c) bod mwy na
25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael
llety dros dro ers dechrau’r pandemig.
Yn croesawu:
a) y £6 miliwn
ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu
ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;
b) y buddsoddiad o £65
miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai
cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n
gartref.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu pwynt 6 a rhoi
yn ei le:
Yn
nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario
ar lety dros dro.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r nifer
cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan
landlordiaid preifat.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gweithio gydag
awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau
cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;
b) adolygu a
chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd
targedau adeiladu tai;
c) adolygu pa gamau y
gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai
fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti cynyddol
yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw
waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent
cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd
15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol
ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg
darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu
digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn rhaid
gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithredu mesurau brys i:
a) rhewi rhenti yn y sector
rhentu preifat;
b) gosod moratoriwm ar droi
pobl allan.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â deall ei
chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn galw ar i
Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol â
chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans tai lleol yng Nghymru.
Yn cydnabod:
a) bod tenantiaid cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag
codiadau rhent y gaeaf hwn;
b) o 1 Rhagfyr bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig
rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael eu troi allan;
c) bod mwy na 25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain
yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael llety dros dro ers dechrau’r pandemig.
Yn croesawu:
a) y £6 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y
gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant
rent;
b) y buddsoddiad o £65 miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar
gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol, gan sicrhau bod gan
ragor o bobl le y gellir ei alw’n gartref.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau
lleol yn eu gwario ar lety dros dro.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r nifer cynyddol o hysbysiadau troi allan adran
21 sy'n cael eu cyflwyno gan landlordiaid preifat.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o
hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai
gwag i fod yn gartrefi;
b) adolygu a chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er
mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd targedau adeiladu tai;
c) adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i drosi lleoedd
gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n
ganolog.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti cynyddol
yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw
waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent
cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd
15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol
ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg
darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant
yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn rhaid
gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn
nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario
ar lety dros dro.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.