Cyfarfodydd

NDM8086 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr

NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.

Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.

Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel defnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.