Cyfarfodydd
Item for discussion: Update and Forward Work Programme
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 8)
Papur diweddaru (15.45 - 16.00)
Papur 9 – Papur diweddariad
Papur 10 – Llythyr gan y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Nododd
y Bwrdd y papur diweddaru a’r flaenraglen waith.
Nododd
y Bwrdd y diweddariad staffio a’r ffaith y byddai ymarfer recriwtio allanol yn
dechrau cyn bo hir i ganfod Uwch-ymchwilydd ar gyfer yr ysgrifenyddiaeth.
Nododd
y Bwrdd y diweddariad ar ddau Hawliad Treuliau Eithriadol a gyflwynwyd i'r
Bwrdd yn flaenorol. Roedd un wedi dod i ben erbyn hyn a chytunodd y Bwrdd i
adolygu'r llall ym mis Mehefin.
Nododd
y Bwrdd lythyr oddi wrth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch
y Rheolau ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol a chytunodd ar ymateb.
Cam i’w gymryd:
Yr
ysgrifenyddiaeth i wirio a yw'r taliad untro o £600 wedi'i gynnwys yn rhagolwg
y Diweddariad Cyllid.
Yr
ysgrifenyddiaeth i gyfarfod â'r Cadeirydd i drafod yr agenda ar gyfer cyfarfod
mis Mai.
Cyhoeddi
ymateb i lythyr y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cyfarfod: 08/12/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 7)
Eitem i'w thrafod: Y wybodaeth ddiweddaraf a'r flaenraglen waith (13:15 - 13:30)
- Paper 7 – Update paper and
forward work programme
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
- Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i
swyddi newydd o fewn Tîm Clercio'r Bwrdd.
- Nododd y Bwrdd fod Nia Morgan,
Cyfarwyddwr Cyllid y Comisiwn wedi symud i borfeydd brasach. Roedd y Bwrdd yn
dymuno cofnodi eu diolch a'u dymuniadau gorau i Nia yn ei rôl newydd.
- Cytunodd y Bwrdd ar ei flaenraglen waith ar gyfer
gweddill y flwyddyn ariannol hon, a chytuno iddi. Cytunodd y Bwrdd i gynnal ei
gyfarfod nesaf (mis Chwefror) mewn person. Cytunodd y Bwrdd i adolygu dyddiadau
ei gyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal
mewn da bryd cyn bod angen gwneud penderfyniadau neu lansio ymgynghoriadau.
Cyfarfod: 13/10/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 9)
Eitem i'w thrafod: Y wybodaeth ddiweddaraf a'r flaenraglen waith (14.15 - 15.00)
Papur 8 – Y wybodaeth ddiweddaraf am wahanol faterion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/1)
Cofnodion:
·
Cafodd y Bwrdd y
wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i swyddi newydd o fewn Tîm Clercio'r Bwrdd.
· Er mwyn sicrhau gwerth am arian, cytunodd y Bwrdd y
byddai gwaith i fynd i'r afael â'r materion teipograffyddol ac ieithyddol y
gwyddys amdanynt yn rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau yn cael ei ohirio nes y
bydd adolygiad mwy sylweddol o reolau'r cynllun yn ofynnol.
· Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu
Cynllun Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan Comisiwn y Senedd.
· Cytunodd y Bwrdd y byddai’r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer
8 Rhagfyr yn cael ei gynnal yn rhithwir.