Cyfarfodydd

Item for decision: Thematic Review - Members' staffing support

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2023 - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025) (Eitem 3)

Adolygiad staffio (10.10 - 11.40)

Gwahoddwyd Dr Rebecca Mckee i siarad am ei gwaith ymchwil ar fframweithiau staffio mewn deddfwrfeydd

 

Papur 4 – Trafodaeth ar y camau nesaf ar gyfer cam 2 a cham 3 o’r adolygiad, gydag amserlen.

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

­   Croesawodd y Bwrdd Dr Rebecca McKee i'r cyfarfod. Cyflwynodd Rebecca ganfyddiadau ei hymchwil ar fframweithiau staffio mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â strwythur staffio, swyddi cysylltiedig, trosiant staff, recriwtio a chadw.

­   Cyflwynodd Mike Redhouse, sy’n arwain yr adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, bapur yn ystyried camau nesaf yr adolygiad thematig o gymorth staffio.

­   Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas ac amcanion yr adolygiad o gyflog a graddfeydd a chytunodd i gynnwys Staff Cymorth Grwpiau’r Pleidiau yn yr adolygiad. Un o flaenoriaethau cychwynnol yr adolygiad yw sefydlu’r sefyllfa o ran y farchnad a’i chymharu â deddfwrfeydd eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

­   Nododd y Bwrdd wybodaeth ychwanegol a fyddai’n helpu i lywio’r adolygiad, megis cyfraddau trosiant, cyfweliadau ymadael fel yr awgrymwyd yng nghyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, a lefelau gwariant yr Aelodau ou lwfans staffio.

­   Cytunodd y Bwrdd i swyddogion baratoi manyleb ar gyfer y gwaith ochr yn ochr â Thîm Caffael y Comisiwn.

­    

Cam i’w gymryd: 

­   Roedd y Bwrdd yn cwestiynu’r ffigur a roddwyd fel sail ar gyfer Lwfans Cymorth Staffio’r Aelodau yng ngwaith ymchwil Rebecca, sef 3.5 cyfwerth ag amser llawn. Y swyddogion i holi Rebecca am hyn a chywiro’r ffigur os bydd angen.

­   Rhoi'r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gyngor pellach i'r Bwrdd.

­   Diwygio’r cwmpas, yr amcanion a'r wybodaeth sydd ei hangen, yn unol â’r hyn a nodwyd uchod.

­   Cytunodd y Bwrdd i rannu rhagor o wybodaeth â Grwpiau’r Cynrychiolwyr am yr adolygiad sy'n cael ei gynnal.

 


Cyfarfod: 13/10/2022 - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025) (Eitem 7)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Thematig - Cymorth staffio i'r Aelodau (13.15 - 14.00)

Papur 6 – Cytuno ar gylch gorchwyl terfynol ac opsiynau ar gyfer newidiadau i’r Penderfyniad ar gyfer 2023/24

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

·       Nododd y Bwrdd yr adborth a ddaeth i law ar y cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr adolygiad, a rannwyd â'r Grwpiau Cynrychioliadol a'r Prif Weithredwr a Chlerc yn ystod toriad yr haf.

·       Cytunodd y Bwrdd ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad.

·       Fel rhan o gam cyntaf yr adolygiad, ac yng ngoleuni galwadau am ragor o gefnogaeth staffio i Aelodau, bu’r Bwrdd yn trafod sylwadau a wnaed ar y mater hwn gan yr Aelodau yn ystod y flwyddyn hon, a newidiadau i faint a chymhlethdod llwyth gwaith yr Aelodau. Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod cymhlethdod gwaith seneddol yr Aelodau wedi cynyddu.

·       Cytunodd y Bwrdd i ystyried hyn ymhellach fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023/24.