Cyfarfodydd

P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir ynghylch y rhesymu dros dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny sydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau ei bod yn anodd gweld beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd a chafodd y ddeisesb ei chau a diolchwyd i'r deisebydd.