Cyfarfodydd

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-24

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/06/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Papur i’w nodi 14 – Llythyr oddi wrth Gomisiwn y Senedd: Diweddariad mewn perthynas ag argymhelliad adroddiad y Pwyllgor – 24 Mai 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/04/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 10 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-2024 - Ymateb wedi'i ddiweddaru gan Gomisiwn y Senedd - 30 Mawrth 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/02/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 3 - Llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y Pwyllgor: Taliad costau byw i staff y Comisiwn - 19 Ionawr 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/12/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Diweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn Datganiad hydref y DU - 21 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/12/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-2024: Ymateb Comisiwn y Senedd - 8 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/11/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr at y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr

 


Cyfarfod: 17/11/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr

 


Cyfarfod: 20/10/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-21-22 P1 – Adroddiad drafft

FIN(6)-21-22 P2 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 5 Hydref 2022 – 14 Hydref 2022

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.


Cyfarfod: 05/10/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth

Ken Skates AS, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papurau ategol:

FIN(6)-19-22 P1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-24

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i wneud y canlynol:

 

·         Darparu nodyn ar y prosiectau a nodwyd ar gyfer 2023-24, sydd wedi'u cynnwys yng nghronfa prosiect y Comisiwn.

·         Cylchredeg canllaw i Aelodau o’r Senedd ynghylch y system wresogi ac awyru yn swyddfeydd Tŷ Hywel.

·         Darparu nodyn ar y blaenoriaethau lefel uchaf o fewn strategaeth y Comisiwn ar gyfer lleihau ei gostau ynni a'i ôl troed carbon.

·         Darparu nodyn ar gymhwysedd y Comisiwn ar gyfer menter Llywodraeth Cymru, buddsoddi i arbed.

·         Darparu nodyn ar strwythur staff y Comisiwn.


Cyfarfod: 05/10/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.