Cyfarfodydd
NDM8082 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canser gynaecolegol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canser gynaecolegol
NDM8082 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mis
Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.
2. Yn mynegi ei
phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor yw'r un
gynaecolegol, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62
diwrnod.
3. Yn gresynu at y
ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth
wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
4. Yn nodi ymhellach
ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o
fenywod sy'n gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gynnal adolygiad
brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;
b) sicrhau bod
cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd
gynaecolegol; ac
c)
cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.07
NDM8082 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi bod mis Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.
2.
Yn mynegi ei phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle
tiwmor yw'r un gynaecolegol, gyda llai na thraean o
gleifion yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod.
3.
Yn gresynu at y ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer
canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
4.
Yn nodi ymhellach ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o fenywod sy'n
gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
gynnal adolygiad brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;
b)
sicrhau bod cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar
iechyd gynaecolegol; ac
c)
cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 12)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 28 Medi
Cofnodion:
Gohiriwyd yr eitem hon