Cyfarfodydd
NDM8070 Dadl Plaid Cymru - Costau byw
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 11)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Costau byw - Gohiriwyd o 14 Medi
NDM8073 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y
cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen
ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau
tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith,
fel:
a. haneru prisiau
trenau a gosod cap ar brisiau bws;
b. gweithio gydag
awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd
wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig;
c. rhewi rhent;
d. ailgyflwyno mesurau
i wahardd troi allan yn y gaeaf;
e. ehangu'r cynllun
prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;
f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.
Yn croesawu'r camau a
gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:
a) gwarant pris ynni,
sy’n rhoi cap ar gostau ynni;
b) taliadau costau byw
i bob ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;
c) taliad costau byw
anabledd gwerth £150;
d) gostyngiadau misol
mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;
e) cynnydd yn y Cyflog
Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;
f) gostyniad yn y
gyfradd taper credyd cynhwysol;
g) rhewi’r dreth
tanwydd;
h) rhewi ffi'r
drwydded teledu am dwy flynedd;
i) taliadau tanwydd
gaeaf ychwanegol.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd
sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:
Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n
caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw
digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.
Yn croesawu’r £1.6bn a
fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n
rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn
ariannol hon, gan gynnwys:
a) ehangu Taliad
Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;
b) dechrau cyflwyno
prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;
c) buddsoddi £51.6m yn
y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;
d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl
sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif
gyflenwad nwy.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8073 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y cynnydd
presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol
a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd
ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:
a. haneru prisiau trenau a
gosod cap ar brisiau bws;
b. gweithio gydag awdurdodau
lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn
ystod cyfnod y pandemig;
c. rhewi rhent;
d. ailgyflwyno mesurau i
wahardd troi allan yn y gaeaf;
e. ehangu'r cynllun prydau
ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;
f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth
addysgol i £45.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.
Yn croesawu'r camau a gymerwyd
gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:
a) gwarant pris ynni,
sy’n rhoi cap ar gostau ynni;
b) taliadau costau byw
i bobl ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;
c) taliad costau byw
anabledd gwerth £150;
d) gostyngiadau misol
mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;
e) cynnydd yn y Cyflog
Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;
f) gostyngiad yn y
gyfradd tapro credyd cynhwysol;
g) rhewi’r dreth
tanwydd;
h) rhewi ffi'r
drwydded teledu am ddwy flynedd;
i) taliadau tanwydd
gaeaf ychwanegol.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl,
busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:
Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu
i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail
cynhyrchwyr nwy ac olew.
Yn croesawu’r £1.6bn a
fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n
rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn
ariannol hon, gan gynnwys:
a) ehangu Taliad
Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;
b) dechrau cyflwyno
prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;
c) buddsoddi £51.6m yn
y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;
d)
£4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw
a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8073 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod y cynnydd
presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol
a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd
ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.
2. Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n
caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw
digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.
3. Yn croesawu’r
£1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol
sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y
flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:
a) ehangu Taliad
Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;
b) dechrau cyflwyno
prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;
c) buddsoddi £51.6m yn
y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;
d)
£4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw
a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.