Cyfarfodydd

P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod y Gweinidog yn parhau i fod yn sicr bod Rheoliadau a Chod 2008 yn addas i'r diben, er bod y Pwyllgor wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at bryderon y deisebydd.  Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at bryderon ynghylch effaith llosgi dan reolaeth.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Papur i'w nodi - P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried ymateb yr RSPB a'r deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i adolygu'r cod statudol a'r rheoliadau ynghylch llosgi dan reolaeth, gan sicrhau eu bod yn gydnaws ag amcanion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a Thir Cynaliadwy.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar i ofyn am eu barn ynghylch a oes angen caniatáu rhywfaint o amser ar gyfer llosgi o dan reolaeth, ac a yw'r amser a nodwyd ar gyfer gwneud hynny yn briodol.