Cyfarfodydd

P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mynegodd yr aelodau eu tristwch fod iechyd Tassia wedi gwaethygu'n sylweddol ac roedd eu meddyliau gyda Tassia a'i hanwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Mynegodd yr aelodau pa mor ysbrydoledig y bu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i wella gofal canser. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at hanes a llwyddiant y ddeiseb a’r hyn y mae Tassia wedi’i gyflawni drwy ei deiseb ac ymgyrchu ehangach i wella prosesau cynllunio, a gwasanaethau ar gyfer canser metastatig y fron.

 

Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i Tassia am fod yn gatalydd ar gyfer newid, ac yn hyrwyddwr ar gyfer pob menyw â chanser y fron sydd, wedyn yn datblygu canser metastatig y fron yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac estynnodd ddiolch i Tassia am ei hymgysylltiad parhaus â’r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog er mwyn cael eglurhad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Rhwydwaith Canser ac i ofyn am ymateb i’r sylwadau pellach a godwyd gan Tassia.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau a chwestiynau Tassia ac annog y Gweinidog i gwrdd â Tassia, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran cleifion canser metastatig y fron.

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod Rhwydwaith Canser Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr ac i ofyn am eglurhad pellach ar rai o'r prif faterion a godwyd. Hefyd, nododd y Pwyllgor fod y deisebydd wedi ysbrydoli nhw wrth iddi frwydro am well cymorth i eraill, fel hithau, sy’n datblygu canser y fron metastatig, er gwaethaf ei heriau iechyd ei hun.

 


Cyfarfod: 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog yn gofyn iddi fynd i'r afael â rhai cwestiynau heb eu hateb yn sgil y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn. 

 


Cyfarfod: 19/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl ar ddeiseb P-06-1294 - Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

NDM8103 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’ a gasglodd 14,106 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8103 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’ a gasglodd 14,106 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a chanmolodd ymroddiad a dewrder y deisebwyr i ymgyrchu dros welliannau, a chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr dinistriol hwn sy’n cyfyngu ar fywyd. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl.