Cyfarfodydd

P-06-1293 Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1293 - Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O gofio bod y Gweinidog bellach wedi egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella mynediad at wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ledled Cymru ac nid oes gan y deisebydd unrhyw sylwadau i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y pryder hwn.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1293 Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn safoni'r broses o atal toriadau eilaidd esgyrn ledled Cymru, gan wneud yn siŵr bod pob Bwrdd Iechyd yn blaenoriaethu’r broses o gomisiynu Cyswllt Torri Esgyrn o safon – sy’n cael ei ariannu’n llawn – a’r adnoddau sydd ar gael i ddiwallu anghenion eu poblogaeth.