Cyfarfodydd

P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith bellach wedi dechrau darn o waith ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Oherwydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. 

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn:

  • sut y byddant yn gwybod pan fydd y sector cyhoeddus wedi cyrraedd sero net, os nad oes eglurder ynghylch eu hôl troed carbon llawn; a,
  • sut mae cynllun Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ffordd gyson o fesur er mwyn sicrhau bod yr ôl troed carbon yn glir.

 

At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i dynnu sylw at y ddeiseb hon, yn sgil eu gwaith ar Sero Net Cymru.