Cyfarfodydd

P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i'r pryniant corfforaethol o'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan y deisebydd yn y Senedd  ar 21 Mehefin.

 

Trafododd yr Aelodau y ddeiseb gan nodi, er bod cefnogaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i gynnal ymchwiliad i wasanaethau milfeddygol yng Nghymru, nid yw hyn yn rhan o’u blaenraglen waith ar hyn o bryd, felly mae’n annhebygol y caiff y gwaith ei gynnal yn y ddau dymor nesaf.

 

Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd yn nhymor yr hydref a gwahodd Coleg Brenhinol y Milfeddygon, a chynrychiolwyr o’r maes i roi tystiolaeth. Nododd yr Aelodau y byddai ymchwiliad byr ar y ddeiseb yn parhau i olygu bod gwaith manylach gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau’n bosibl yn ddiweddarach, a phan fydd ganddo’r gallu i wneud hynny.

 


Cyfarfod: 12/01/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a gofynnodd i swyddogion baratoi papur cwmpasu ynghylch sut y gallai’r Pwyllgor gefnogi’r digwyddiad roedd y deisebwr am ei gynnal yn y Senedd i dynnu sylw at yr heriau cysylltiedig â’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 09/11/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am y ddeiseb, a gofyn pa gynlluniau sydd ganddynt ar waith i edrych ar y mater fel rhan o’u blaenraglen waith, yn enwedig mewn perthynas â safonau gofal anifeiliaid.