Cyfarfodydd

Gwrandawiad cyn penodi â'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Comisiynydd y Gymraeg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/10/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Eitem 4)

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda'r ymgeisydd a ffefrir.

 

4.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiadau, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig. Caiff yr adroddiad ei osod ddechrau’r wythnos nesaf.


Cyfarfod: 13/10/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Eitem 2)

2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y rôl Comisiynydd y Gymraeg: Sesiwn dystiolaeth gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru

Efa Gruffudd Jones, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Comisiynydd y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.