Cyfarfodydd

Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol - adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar Grwpiau Trawsbleidiol.

 


Cyfarfod: 13/02/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Rheolau Diwygiedig Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y rheolau diwygiedig, yn amodol ar un newid bach ac unrhyw waith tacluso ychwanegol sydd ei angen.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried adroddiad byr ar y rheolau diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 16/01/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 6)

Papurau i'w nodi - Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor eto’r papurau a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol a ddaeth i ben am nad oedd cworwm.

 

6.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gytundeb i fân newidiadau i'r Grwpiau Trawsbleidiol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 


Cyfarfod: 12/12/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 6)

Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau a chytunwyd ar fân newidiadau i'r rheolau ar Grwpiau Trawsbleidiol.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater o isafswm nifer yr Aelodau ym mhob Grŵp Trawsbleidiol wrth baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd.

 

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r papurau eto yn y cyfarfod nesaf, gan fod dau Aelod wedi gadael y cyfarfod, felly nid oedd cworwm.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Adroddiad cydymffurfio Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Llywydd ysgrifennu at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o'r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel Cadeiryddion Grwpiau Trawsbleidiol.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Llywydd gadarnhau sefyllfa'r tri grŵp syn ymddangos yn segur, gan gynnwys a ydynt wedi cwrdd neu'n bwriadu cwrdd, neu a ydynt am ddadgofrestru'n wirfoddol.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 5)

Ymatebion ymgynghoriad Grwpiau Trawsbleidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd o fwyafrif na fyddai adolygiad sylfaenol o ddefnydd Grwpiau Trawsbleidiol o adnoddau'r Senedd.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weithredwr er mwyn canfod sut mae'r rheolau ariannol ar hyn o bryd yn gweithredu mewn perthynas â phresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd a digwyddiadau Grwpiau Trawsbleidiol.

 

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i nifer o fân newidiadau i'r rheolau presennol a gofyn i swyddogion eu diweddaru yng ngoleuni hyn. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i drafod y rheolau diweddaraf mewn cyfarfod yn y dyfodol.