Cyfarfodydd

NDM8064 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hepatitis C

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/11/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 30/11/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 13/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hepatitis C

NDM8064 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.

2. Yn nodi'r llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gorfodi ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â gofal;

b) datblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan;

c) sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r cynllun strategol cenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn nodi:

a) disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;

b) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu hepatitis C erbyn 2030;

c) bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8064 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.

2. Yn nodi'r llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gorfodi ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â gofal;

b) datblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan;

c) sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r cynllun strategol cenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn nodi:

a) disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;

b) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu hepatitis C erbyn 2030;

c) bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.