Cyfarfodydd
NDM8047 Dadl Plaid Cymru - Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru - Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
NDM8047 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn
addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r
pecynnau cymorth sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r
afael â’r argyfwng costau byw, sy’n werth cyfanswm o £380m ers Tachwedd 2021,
gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd er mwyn darparu
£200 tuag at filiau ynni nad oes gofyn ei ad-dalu, a £177m ar gyfer y cynllun
cymorth costau byw.
2. Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael yn briodol â’r argyfwng
hwn, ac wedi methu ag amgyffred pa mor ddifrifol yw ei effaith ar bobl ledled
Cymru.
3. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau cymorth tanwydd presennol yn
barhaus ynghyd ag ymyriadau posibl i’r dyfodol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gwarantu bod unrhyw
newidiadau i'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref er
mwyn sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl;
b) ehangu cymhwysedd y
taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen ar incwm isel sy'n
agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn;
c)
lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i
wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8047 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn
addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
24 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.