Cyfarfodydd

NDM8031 Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

NDM8031 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Mai 2022, yn cael ei ddirymu.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8031 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Mai 2022, yn cael ei ddirymu.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

35

49

Gwrthodwyd y cynnig.