Cyfarfodydd

SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/10/2023 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 4)

4 Cyfyngiadau Cyflymder 20 mya - Sesiwn Graffu gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth – Llywodraeth Cymru

Phil Jones, Cadeirydd y Tasglu 20 mya – Grŵp Tasglu 20mya

Kaarina Ruta, Cynorthwyydd Trafnidiaeth, Arweinydd 20mya – Asiantaeth Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd a swyddogion Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 13/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

NDM8347 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, sydd i ddod i rym ar 17 Medi 2023.

Dogfen ategol - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.

2. Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.

3. Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.

4. Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8347 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, sydd i ddod i rym ar 17 Medi 2023.

Dogfen ategol - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.

2. Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.

3. Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.

4. Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

15

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8347 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.

2. Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.

3. Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.

4. Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

15

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Am 17.35, cododd Huw Irranca-Davies bwynt o drefn ynghylch y ffaith y cafodd ei enwi gan Aelod oedd yn siarad, ond y gwrthodwyd y cyfle iddo ymyrryd. Dywedodd y Dirprwy Lywydd mai mater i’r Aelod yw p’un a yw’n cymryd ymyrraeth, ac y gall Aelodau a enwyd ymateb os byddant yn rhoi eu hunain ar y rhestr siarad.

Am 18.20, cododd Janet Finch-Saunders bwynt o drefn ynghylch y defnydd o’r gair “imposter”. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n gwirio’r Cofnod.

Am 18.25, cododd Gareth Davies bwynt o drefn ynghylch y defnydd o’r gair “shrill”. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n gwirio’r Cofnod.

 


Cyfarfod: 10/07/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol a Chyfnewid Trwyddedau Gyrru Cenedlaethol ac ar Gyfnewid Gwybodaeth am Droseddau Traffig Cysylltiedig â Diogelwch Ffyrdd (DU/Sbaen)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 11)

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022

NDM8054 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8054 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 3)

3 SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 


Cyfarfod: 30/06/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 5)

5 Trafnidiaeth - terfyn cyflymder trefol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.1  Croesawodd y Pwyllgor y rheoliadau i gyflwyno cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am eglurhad ar y cynlluniau i osod arwyddion ar gyfer y terfyn cyflymder newydd.