Cyfarfodydd

P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd nad oes unrhyw beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb o ystyried nad yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd mewn penderfyniadau sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i

ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y cwestiynau a godwyd yng ngohebiaeth y deisebydd.

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w haildrafod pan fydd yr Aelodau wedi cael cyfle i ystyried yr ohebiaeth gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • Gyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg i weld beth mae eu gwaith monitro o ran profiad y claf wedi'i ddatgelu; a
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn gofyn pa gamau maen nhw wedi'u cymryd i leihau'r straen ar bractisau yn yr ardal, a'r cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd newydd yn Cogan yn y dyfodol.