Cyfarfodydd

P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried bod y Cynllun Gwella Canser wedi’i gyhoeddi, a bod hwn yn cydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu ac yn rhoi pwyslais ar wella, cytunodd yr aelodau i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd y dylai cleifion yng Nghymru fod yn cael triniaeth gyfartal a sgrinio cyfartal, gan gytuno i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn am unrhyw farn bellach sydd ganddi ar y mater hwn.