Cyfarfodydd
NDM8033 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y rhwydwaith trafnidiaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y rhwydwaith trafnidiaeth
NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1.
Yn credu nad yw rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn addas i'r diben.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1.
Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar
gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.
2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn
y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Llwybr
Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei
chyfran deg o brosiectau fel HS2.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad yw rhwydwaith
trafnidiaeth Cymru yn addas i'r diben.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
10 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn
credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar
gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.
2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn
y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian
(Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei
chyfran deg o brosiectau fel HS2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
15 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
1.
Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar
gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.
2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn
y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
3.
Yn credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei
chyfran deg o brosiectau fel HS2.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
10 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.