Cyfarfodydd
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Drafft o ganllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y
canllawiau yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ar yr elfennau sy'n
ymwneud â busnes pwyllgorau yn ei gyfarfod nesaf. Caiff y canllawiau diweddaraf
sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi a'u darparu i'r Aelodau ar
ôl datrys ymholiad technegol yn ymwneud â'r defnydd o iPads gan yr Aelodau ar
gyfer pleidleisio, gyda'r canllawiau terfynol i ddilyn ar ôl ymgynghori â
Fforwm y Cadeiryddion.
Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Canllawiau drafft cyntaf ar drafodion rhithwir a hybrid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ganllawiau drafft a luniwyd yn dilyn ei Adolygiad o Reol
Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytunwyd ar sawl
newid yn ymwneud â’r lleoliadau y gall Aelodau bleidleisio ohonynt ac yn
ymwneud â’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad Aelodau a Gweinidogion mewn
cyfarfodydd pwyllgor.
Nododd y
Pwyllgor Busnes y bydd y canllawiau hefyd yn destun ymgynghori gyda Fforwm y
Cadeiryddion cyn eu cyhoeddi gan y Llywydd yn ystod yr hydref. Bydd rhagor o
wybodaeth am faterion technegol yn ymwneud â chyfranogiad a phleidleisio yn y
Cyfarfod Llawn yn cael ei darparu ar ddechrau tymor yr hydref.
Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad ar yr adolygiad
o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytuno
arno, yn amodol ar welliant mewn perthynas â phresenoldeb mewn cyfarfodydd
pwyllgor y cytunir arnynt y tu allan i’r cyfarfod. Byddai’r Pwyllgor yn trafod
canllawiau drafft cychwynnol ar gyfranogiad mewn trafodion rhithwir a hybrid yn
ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 05/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Cyfranogi a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Fel rhan
o'i adolygiad o Reol Sefydlog 34 (gweithdrefnau brys), ystyriodd y Pwyllgor
Busnes a ddylai cyfranogiad a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a
chyfarfodydd pwyllgorau barhau y tu hwnt i bandemig Covid-19. Wrth wneud hynny,
ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau unigol, grwpiau
pleidiau, Fforwm y Cadeiryddion a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
- dylid parhau â chyfranogi o
bell mewn Cyfarfodydd Llawn, gyda chanllawiau pellach i'w cyhoeddi yn
cwmpasu ystod o faterion yn ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad, gan
gynnwys pwysleisio mai cyfrifoldeb yr Aelodau sy'n cyfranogi o bell yw
sicrhau cysylltiad dibynadwy â’r trafodion;
- dylai pwyllgorau barhau i gael
dewis fformat eu cyfarfodydd fesul cyfarfod ac mai cadeiryddion pwyllgorau
ddylai wneud y penderfyniadau hynny, gan gynnwys penderfyniadau mewn
cysylltiad â thystion, ar ôl ymgynghori â'u pwyllgorau;
- Dylai Rheolau Sefydlog
34.14A-D sy'n caniatáu pleidleisio electronig o bell yn y Cyfarfod Llawn
gael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 12, i gynnwys mai cyfrifoldeb yr
Aelodau eu hunain yw sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r system
bleidleisio cyn unrhyw bleidleisiau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid
cyhoeddi canllawiau pellach mewn perthynas â chynnal pleidlais;
- Dylid caniatáu i Reolau
Sefydlog 34.14E-F sy'n caniatáu pleidleisio electronig o bell mewn
cyfarfodydd pwyllgorau fynd yn ddi-rym a chynnig y dylid diwygio Rheol
Sefydlog 17 i alluogi pleidleisio drwy alw'r gofrestr yn nhrafodion
pwyllgorau;
- Y dylid caniatau i Reolau
Sefydlog 34.15-17 (Hygyrchedd Cyfarfodydd Llawn) a 34.19-21 (Hygyrchedd
Cyfarfodydd Pwyllgor) fynd yn ddi-rym.
- Bod Rheolau Sefydlog 12.1 a
17.40 yn cael eu diwygio i’w gwneud yn glir bod cyfarfodydd rhithwir a
hybrid yn gymwys fel cyfarfodydd cyhoeddus pan fo darllediad byw ar gael.
Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes hefyd am roi ystyriaeth bellach i'r angen parhaus am seibiannau
technegol cyn y cyfnod pleidleisio a'r defnydd o PIN ar gyfer pleidleisio, a
hefyd a ellid rhoi mwy o wybodaeth i grwpiau pleidiau o ran pa Aelodau sy'n
bresennol i bleidleisio.
Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Darpariaethau Rheol Sefydlog 34
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig
y caniateir i Reolau Sefydlog 34.2-4 (Llywydd Dros Dro Dynodedig) fynd yn
ddi-rym ar 1 Awst 2022 a bod Rheolau Sefydlog RhS 34.5-8 (Cadeirydd Dros Dro y
Cyfarfodydd Llawn) yn cael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 6.
Cyfarfod: 21/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Papur ar ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer
o’r darpariaethau presennol a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys)
a chytunodd i gynnig caniatáu i’r Rheolau Sefydlog a ganlyn fynd yn ddi-rym ar
1 Awst 2022:
- Y Llywydd yn adalw’r Senedd
(Rheol Sefydlog 34.9)
- Cworwm yn y Cyfarfod Llawn
(Rheol Sefydlog 34.10)
- Pleidleisio (wedi’i bwysoli)
yn y Cyfarfod Llawn (Rheol Sefydlog 34.11-14)
- Cwestiynau llafar (Rheol
Sefydlog 34.18)
- Pwyllgor Cyfrifol o dan Reol
Sefydlog 21 (Rheol Sefydlog 34.22-23)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Llywydd
Dros Dro Dynodedig (Rheol Sefydlog 34.2-4) a Chadeirydd Dros Dro yn y
Cyfarfodydd Llawn (Rheol Sefydlog 34.5-8) yn y cyfarfod canlynol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y byddai
pleidleisio electronig o bell yn cael ei gadw yn y Rheolau Sefydlog i'w
ddefnyddio mewn sefyllfaoedd brys yn y dyfodol, ni waeth beth fo'r
penderfyniadau a wneir mewn cyfarfodydd dilynol ynghylch ei ddefnydd rheolaidd
parhaus.
Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell