Cyfarfodydd

Blaenraglen Waith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

Blaenraglen waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

 


Cyfarfod: 16/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 5)

Rhaglen waith strategol (13.40 - 15.00)

Papur 6 – Rhaglen waith strategol a chytunwyd ym mis Mawrth 2022

 

Trafodaeth – Diweddariad ar raglen waith strategol, amserlenni a llwybrau critigol ar gyfer adolygiadau y Bwrdd

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

­   Croesawodd y Bwrdd Dr Rebecca McKee i'r cyfarfod. Cyflwynodd Rebecca ganfyddiadau ei hymchwil ar fframweithiau staffio mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â strwythur staffio, swyddi cysylltiedig, trosiant staff, recriwtio a chadw.

­   Cyflwynodd Mike Redhouse, sy’n arwain yr adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, bapur yn ystyried camau nesaf yr adolygiad thematig o gymorth staffio.

­   Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas ac amcanion yr adolygiad o gyflog a graddfeydd a chytunodd i gynnwys Staff Cymorth Grwpiau’r Pleidiau yn yr adolygiad. Un o flaenoriaethau cychwynnol yr adolygiad yw sefydlu’r sefyllfa o ran y farchnad a’i chymharu â deddfwrfeydd eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

­   Nododd y Bwrdd wybodaeth ychwanegol a fyddai’n helpu i lywio’r adolygiad, megis cyfraddau trosiant, cyfweliadau ymadael fel yr awgrymwyd yng nghyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, a lefelau gwariant yr Aelodau o’u lwfans staffio.

­   Cytunodd y Bwrdd i swyddogion baratoi manyleb ar gyfer y gwaith ochr yn ochr â Thîm Caffael y Comisiwn.

 

Cam i’w gymryd: 

­   Roedd y Bwrdd yn cwestiynu’r ffigur a roddwyd fel sail ar gyfer Lwfans Cymorth Staffio’r Aelodau yng ngwaith ymchwil Rebecca, sef 3.5 cyfwerth ag amser llawn. Y swyddogion i holi Rebecca am hyn a chywiro’r ffigur os bydd angen.

­   Rhoi'r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gyngor pellach i'r Bwrdd.

­   Diwygio’r cwmpas, yr amcanion a'r wybodaeth sydd ei hangen, yn unol â’r hyn a nodwyd uchod.

­   Cytunodd y Bwrdd i rannu rhagor o wybodaeth â Grwpiau’r Cynrychiolwyr am yr adolygiad sy'n cael ei gynnal.