Cyfarfodydd
Item for decision: Board Mid-term Effectiveness Review (9.50 - 10.20)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 7)
Adolygiad effeithiolrwydd (15.25 - 15.45)
Papur 8 – Ymateb
y Bwrdd i argymhelliadau yr adolygiad
Atodiad Papur 8 –
Adroddiad Terfynol ar Effeithiolrwydd y Bwrdd, 2023
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Cytunodd
y Bwrdd ar ei ymateb i'r adroddiad ar yr Adolygiad Canol Tymor o
Effeithiolrwydd, yn amodol ar y newidiadau terfynol.
Trafododd
y Bwrdd y drefn o ran cyflwyno a chyhoeddi'r adroddiad a'r ymateb iddo, a
chytunodd i gyhoeddi'r ddau, ar wahân, ond ar yr un pryd ym mis Ebrill.
Cam i’w
gymryd:
Yr
ysgrifenyddiaeth i wneud newidiadau terfynol i'w cymeradwyo gan y Cadeirydd.
Cytunodd
y Bwrdd i e-bostio grwpiau cynrychioliadol i'w hysbysu yn fuan cyn cyhoeddi’r
adroddiad.
Cyfarfod: 26/05/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Effeithiolrwydd Canol Tymor y Bwrdd (9.50 - 10.20)
Papur 4 - Papur cwmpasu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
3.1 Bu’r Bwrdd yn ystyried papur cwmpasu ar adolygiad canol
tymor o’i effeithiolrwydd fel y’i cyflwynwyd gan Bennaeth Llywodraethu a
Sicrwydd Comisiwn y Senedd, Gareth Watts.
3.2
Cymeradwywyd cwmpas
eang yr adolygiad fel y’i cynigiwyd. Cytunwyd y dylai cylch gorchwyl yr
adolygiad gynnwys cyfeiriad at y pandemig a’i effaith ar waith y Bwrdd. Dylai’r
adolygiad hefyd ystyried amlder ac effeithiolrwydd y cyfathrebu rhwng Cadeirydd
y Bwrdd a’r ysgrifenyddiaeth.
Camau i’w cymryd: Y Pennaeth
Llywodraethu a Sicrwydd i:
·
Ddiwygio’r papur
cwmpasu i gynnwys yr ychwanegiadau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd a datblygu’r
papur yn gynllun ar gyfer yr adolygiad.
·
Cyflwyno’r cynllun
adolygu i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf i’w gymeradwyo.