Cyfarfodydd

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Holodomor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Holodomor

NDM7994 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.

2. Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.

3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.

Cyd-gyflwynwyr

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cefnogwyr

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Peter Fox (Mynwy)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.