Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 – 26 Gorffennaf 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 / Trefniadau Cyllid yr UE – 22 Awst 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23 - Pwysau ar y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

6.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 16)

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022 i 2023

NDM8037 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:

1. Yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8037 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:

1. Yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

15

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 07/07/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-16-22 P1 – Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 30/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 30/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y canlynol:

 

·         Gofyn i'r Gweinidog Addysg roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am gost uned wirioneddol darparu prydau ysgol am ddim.

·         Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y cyllid a ddyrannwyd i adferiad y GIG sy’n mynd i’r afael â phwysau ar y gweithlu, ac effaith y cyllid a ddyrannwyd ar leihau amseroedd aros y GIG.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor ar y cysyniad 'dim niwed' mewn perthynas ag adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil i Gymru.

·         Gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am 'Llywodraeth Cymru 2025', mewn perthynas â swyddi yn y gwasanaeth sifil.

·         Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am gapasiti Llywodraeth Cymru yn ei Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn perthynas â rheoli'r nifer fawr o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 09/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)

4 Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23: Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

FIN(6)-13-22 P1 – Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor amcangyfrif atodol Archwilio Cymru.

 


Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 8)

8 Y Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2022-23: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-11-22 P4 – Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022-23

FIN(6)-11-22 P5 – Amcangyfrif Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23 (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

FIN(6)-11-22 Comisiwn y Senedd - Atodiad (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor amcangyfrifon atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd i ofyn am ragor o wybodaeth am ei amcangyfrif.