Cyfarfodydd
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)
3 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2022-23 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-03-23 P2 -
Papur blaen
FIN(6)-03-23 P3 -
Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23
FIN(6)-03-23 P4 - Ail Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru ar gyfer 2022-23
FIN(6)-03-23 P5 - Ail Amcangyfrif Atodol Archwilio
Cymru ar gyfer 2022-23
FIN(6)-03-23 P6 - Ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ombwdsmon
2021-22; ac Amcangyfrif 2023-24 - 19 Ionawr 2023
FIN(6)-03-23 P7 -
Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa
Archwilio Cymru – 19 Ionawr 2023
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 3 , View reasons restricted (3/1)
- FIN(6)-03-23 P3 - Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, Eitem 3
PDF 1 MB
- FIN(6)-03-23 P4 - Ail Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022-23, Eitem 3
PDF 182 KB
- FIN(6)-03-23 P5 - Ail Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23, Eitem 3
PDF 803 KB
- FIN(6)-03-23 P6 - Ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ombwdsmon 2021-22; ac Amcangyfrif 2023-24 - 19 Ionawr 2023, Eitem 3
PDF 202 KB
- FIN(6)-03-23 P7 - Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru – 19 Ionawr 2023, Eitem 3
PDF 529 KB
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Pwyllgor y ceisiadau o ran y gyllideb
atodol gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ac fe’u derbyniwyd.
3.2 Trafododd y Pwyllgor gywiriad Archwilio Cymru i
amcangyfrif 20233-24 ac fe’i derbyniwyd.
Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 PTN 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 – 26 Gorffennaf 2022
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 / Trefniadau Cyllid yr UE – 22 Awst 2022
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 6)
6 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23 - Pwysau ar y GIG
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 16)
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022 i 2023
NDM8037 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1.
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig;
(v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a
(vi)
manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.15
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8037 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1. Yn cymeradwyo'r
Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw
newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B
ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan
Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
15 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 07/07/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-16-22 P1 –
Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26 , View reasons restricted (2/1)
Cofnodion:
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân
newidiadau.
Cyfarfod: 30/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 30/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)
3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Sharon Bounds,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol
Dogfennau
ategol:
Cyllideb Atodol
Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23
Papur Briffio gan
Ymchwil y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32 , View reasons restricted (3/1)
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr
Rheolaeth Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y
Llywodraeth ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y
canlynol:
·
Gofyn i'r Gweinidog Addysg roi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am gost uned wirioneddol darparu prydau ysgol am ddim.
·
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y cyllid a ddyrannwyd
i adferiad y GIG sy’n mynd i’r afael â phwysau ar y gweithlu, ac effaith y
cyllid a ddyrannwyd ar leihau amseroedd aros y GIG.
·
Ysgrifennu at y Pwyllgor ar y
cysyniad 'dim niwed' mewn perthynas ag adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil i
Gymru.
·
Gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol roi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am 'Llywodraeth Cymru 2025', mewn perthynas â swyddi yn
y gwasanaeth sifil.
·
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol roi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am gapasiti Llywodraeth Cymru yn ei Gwasanaethau
Cyfreithiol, mewn perthynas â rheoli'r nifer fawr o Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol a rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 09/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)
4 Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23: Archwilio Cymru
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-13-22 P1 –
Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 (Wedi'i gynnwys yn y
pecyn atodol)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Nododd y Pwyllgor amcangyfrif atodol Archwilio Cymru.
Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 8)
8 Y Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2022-23: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-11-22 P4 –
Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022-23
FIN(6)-11-22 P5 –
Amcangyfrif Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23 (Wedi'i gynnwys yn y pecyn
atodol)
FIN(6)-11-22 Comisiwn
y Senedd - Atodiad (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)
Dogfennau ategol:
- FIN(6)-11-22 P4 – Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022-23, Eitem 8
PDF 140 KB
- FIN(6)-11-22 P5 – Amcangyfrif Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23, Eitem 8
PDF 1 MB
- FIN(6)-11-22 Comisiwn y Senedd – Atodiad , View reasons restricted (8/3)
Cofnodion:
8.1 Trafododd y Pwyllgor amcangyfrifon atodol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd i ofyn am ragor o wybodaeth am ei amcangyfrif.