Cyfarfodydd

P-06-1278 Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1278 Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni ymateb y Gweinidog sydd bellach yn nodi bod y cyfrifoldeb bellach ar ysgolion i nodi'r gwersi sgiliau bywyd y maent am eu dysgu i'w disgyblion, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o'r mater.