Cyfarfodydd

NDM7993 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Economi Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Economi Cymru

NDM7993 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn gresynu at stiwardiaeth wael economi Cymru gan Lywodraethau olynol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod stiwardiaeth economi Cymru gan lywodraethau olynol yng Nghymru wedi'i chyfyngu o ganlyniad i beidio â chael ysgogiadau economaidd ac ariannol llawn gwlad annibynnol, sef yr unig ffordd gynaliadwy o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei photensial economaidd llawn

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7993 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn gresynu at stiwardiaeth wael economi Cymru gan Lywodraethau olynol Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod stiwardiaeth economi Cymru gan lywodraethau olynol yng Nghymru wedi'i chyfyngu o ganlyniad i beidio â chael ysgogiadau economaidd ac ariannol llawn gwlad annibynnol, sef yr unig ffordd gynaliadwy o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei photensial economaidd llawn

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

41

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.24 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.