Cyfarfodydd
NDM7991 Dadl: Hawliau Dynol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl: Hawliau Dynol
NDM7991 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a
diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
2. Yn nodi â
phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau
dynol.
3. Yn credu bod
cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio
amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol
sylweddol.
4. Yn credu bod
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau
lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon.
5. Yn cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau
dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl,
a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig)
Bil
yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Y
Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Sian Gwenllian
(Arfon)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei
le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y
DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol.
2. Yn nodi cynigion Llywodraeth y DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben.
3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol.
4. Yn gresynu at record Llywodraeth Cymru o bleidleisio
yn erbyn hawliau dynol gan
gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno
Bil hawliau pobl hŷn yn ystod
y Pumed Senedd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7991 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol,
cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
2. Yn
nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau
hawliau dynol.
3. Yn
credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn
tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol
sylweddol.
4. Yn
credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau
cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn
heddychlon.
5. Yn
cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau
dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
6. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam
yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn
unig)
Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn
unig)
Y Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Sian
Gwenllian (Arfon)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth
y
DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol.
2. Yn nodi cynigion Llywodraeth
y
DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben.
3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol.
4. Yn gresynu at
record Llywodraeth Cymru
o bleidleisio yn erbyn hawliau dynol gan gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno Bil hawliau pobl hŷn yn ystod y Pumed Senedd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7991 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn
nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol,
cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
2. Yn
nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau
hawliau dynol.
3. Yn
credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn
tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion
cyfansoddiadol sylweddol.
4. Yn
credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau
cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn
heddychlon.
5. Yn
cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau
dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
6. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam
yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig)
Bil
yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Y
Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Sian Gwenllian
(Arfon)
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.08 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.