Cyfarfodydd

Senedd Commission Budget 2023-24

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cynnig Taliad Costau Byw 2023-24

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Yn dilyn penderfyniad y Comisiwn mewn egwyddor i wneud taliad costau byw yn y flwyddyn ariannol gyfredol, cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod rhwng swyddogion ac Ochr yr Undebau Llafur (TUS) a gynhaliwyd ar 5 Medi. Eglurwyd bod y sefyllfa wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a gyfleuwyd yn y papurau a bod y Clerc yn gofyn am gyfle i'r Bwrdd Gweithredol ymateb i geisiadau undebau llafur am ragor o wybodaeth cyn cytuno ar y taliad yn ystod y flwyddyn.

 

Trafododd y Comisiynwyr awydd i flaenoriaethu ymateb i anghenion y rhai sydd ar y cyflogau isaf a nodwyd na fu'n bosibl sicrhau cyfranogiad llawn yn y prosesau dros gyfnod yr haf. Gwnaethant ystyried goblygiadau lleihau gwasanaethau, er enghraifft, cymorth TGCh, hyfforddiant a gweithgarwch rhyngseneddol, a gweithgarwch newydd na fyddai’n cael eu cefnogi yn y modd disgwyliedig. Mynegwyd pryderon hefyd am yr effeithiau ar lesiant staff oherwydd y mesurau arbed costau. Roedd un o’r Comisiynwyr yn dal i wrthwynebu gwneud taliad y tu hwnt i'r cytundeb cyflog presennol.

 

Cytunodd y Comisiwn y dylai Swyddogion barhau â'r trafodaethau gydag Ochr yr Undebau Llafur ar y cyd (sy'n cynnwys cynrychiolwyr o PCS, FDA, a Prospect) am gyfnod byr. Byddai'r trafodaethau’n seiliedig ar fforddiadwyedd y taliad a’r effaith y byddai setlo’r anghydfod yn ei chael ar staff a gwasanaethau. Awgrymodd y Comisiynwyr y dylai Ken Skates, fel y deiliad portffolio perthnasol, fod yn rhan o’r broses pe bai hynny’n ddefnyddiol. Gofynnwyd am i nodyn byr gael ei baratoi i’r Comisiynwyr ei rannu â’u grwpiau fel diweddariad am y camau sy’n cael eu cymryd, a gofynnodd y Llywydd i’r Comisiynwyr rannu adborth o’u grwpiau wedi hynny.

 

Dywedodd y Clerc ei bod yn fwriad ganddi, fel y Swyddog Cyfrifo, ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid ynghylch y goblygiadau unwaith y byddai gwedd derfynol ar y sefyllfa gan y byddai'r amrywiad yn y defnydd o arian yn un sylweddol.

 


Cyfarfod: 15/08/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Diweddariad ar Opsiynau Cyllid Costau Byw

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeialog rhwng swyddogion a chynrychiolwyr Undeb PCS a'r gwaith a wnaed ar yr opsiynau cost sy'n ymwneud â gwneud taliad costau byw yn ystod y flwyddyn i staff y Comisiwn mewn ymateb i gais Undeb PCS, fel rhan o'i anghydfod diwydiannol cenedlaethol, ynghylch taliad o £1,500 i'w wneud mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyfredol. Roedd y Prif Weinidog wedi ysgrifennu i nodi na fyddai’n cefnogi ceisio cyllid ychwanegol drwy gyllideb atodol.

Dywedodd bod Llywodraeth y DU wedi nodi’n glir bod yn rhaid i ddyfarniadau tâl gael eu rheoli o fewn y setliadau presennol. Yn sgil hynny, roedd angen i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau cyllidebol anodd i amsugno’r taliad £1500 i’w staff o’i chyllideb bresennol, ac roedd yn disgwyl i'r Comisiwn hefyd geisio amsugno’r costau o’r gyllideb bresennol sydd ar gael i’r Comisiwn.

Trafododd y Comisiwn y sefyllfa ehangach a'r dulliau amgen a phenderfynodd mewn egwyddor, drwy fwyafrif ag un Comisiynydd nad oedd yn cytuno, i gytuno i’r cais hwn gan Undeb PCS yn amodol ar ddod o hyd i gyllid o arbedion yng nghyllideb gyffredinol y Comisiwn.

Cytunodd y Comisiwn y byddai’r Bwrdd Gweithredol yn gwneud penderfyniadau er mwyn cronni’r swm o arian sydd ei angen i wneud taliad o’r fath, gan gydnabod y byddai hyn yn golygu cymryd arian o’r gyllideb staffio a thorri’r rhan fwyaf o wariant arall nad yw wedi’i ymrwymo ar hyn o bryd ac y byddai canlyniadau mesurau o’r fath yn cael effaith ar Aelodau o’r Senedd, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. 

Cytunwyd y byddai angen i unrhyw gynnig fod yn seiliedig ar y Comisiwn yn sicrhau’r arian angenrheidiol pan wneir y taliad, a fyddai’n golygu taliadau fesul cam, yn ôl pob tebyg.

Byddai angen monitro ac adolygu pellach i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Comisiwn.

Trafododd y Comisiwn hefyd y ddeialog ehangach rhwng swyddogion a chynrychiolwyr Undeb PCS, a chytunodd y byddent yn gwneud penderfyniadau terfynol ar ystyriaethau o ran taliad costau byw ac ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 ym mis Medi.

 


Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Llythyr PCS

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn ei hysbysu am gais gan Ochr yr Undebau Llafur y Senedd (Undeb PCS) i wneud taliad costau byw pellach i holl staff y Comisiwn islaw graddau cyflog Cyfarwyddwr.

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth gefndir yn ymwneud â'r cais, cytunwyd ar gamau cychwynnol ac y byddent yn cael gwybod am ddatblygiadau ac opsiynau cysylltiedig.


Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Diweddariad i'r Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr i llythyr at y Pwyllgor Cyllid i roi gwybodaeth mewn perthynas ag Argymhelliad 7 o Adroddiad y Pwyllgor am waith craffu ar Gyllideb 2023-24, ynghylch gwerthuso effeithiolrwydd y mentrau a gyflwynwyd gan y Comisiwn i liniaru effaith pwysau costau byw ar staff.


Cyfarfod: 27/03/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adolygu Cyllideb y Comisiwn 2023-24 a diweddariad ar Gyllideb Atodol Gyntaf

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr arbedion cyllidebol arfaethedig – o ganlyniad i Adolygiad o Gyllideb 2023-24 – a’r gyllideb ddiwygiedig yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol drwy broses y gyllideb atodol. Byddai'r cynigion i leihau'r gyllideb a gymeradwywyd yn cael eu cynnwys yng nghyflwyniad y Comisiwn i'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer ’23-24. Byddai’r mesurau’n arwain at gynnydd cyffredinol diwygiedig yn y gyllideb o 3.4% o gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ar hyn o bryd a fyddai wedi bod yn gynnydd o 4.1%, drwy ostyngiadau o:

   £208,000 yn y gyllideb Ystadau a Chyfleusterau drwy weithredu mesurau a chostau arbed ynni;

   gostyngiad o £107,000 yn y gyllideb TGCh drwy ail-negodi contractau yn gadarn; a

   gostyngiad o £120,000 yng nghyllideb Cronfa Prosiect y Comisiwn.

Nododd y Comisiynwyr yr amserlen ar gyfer cymeradwyo a gosod Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-24, a chytuno bod papurau terfynol y Gyllideb Atodol (Memorandwm Esboniadol a’r llythyr cysylltiedig) yn cael eu hanfon at y Comisiynwyr ym mis Ebrill er mwyn cytuno arnynt yn derfynol; a

nododd y Comisiynwyr y byddai opsiynau posib pellach ar gyfer arbedion ac effeithlonrwydd, yn cael eu hystyried fel rhan o'r cynllunio tymor canolig ar gyfer cyllideb y Comisiwn 2024-25 a'r ddwy flynedd ddilynol, fel rhan o'r gwaith i ddatblygu'r Fframwaith Darparu Adnoddau Tymor Canolig. Roedd y rhain yn cynnwys:

§ Adolygu llinellau cyllideb sylweddol nad ydynt yn staff;

§ creu incwm ychwanegol;

§ adolygu’r ffactor proffilio i gysoni cyllidebau cyflog â’r lefelau staff a ragwelir; ac

unrhyw fesurau pellach a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ac nad ydynt wedi’u hystyried mewn mannau eraill.


Cyfarfod: 27/03/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Llythyr diweddaru at y Pwyllgor Cyllid ynghylch argymhellion Adroddiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr – a fyddai’n cael ei ddarparu i’r Pwyllgor Cyllid – i gyflawni ymrwymiad i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn dau faes o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn eu Hadroddiad ar Graffu ar Gyllideb 2023-24:

·       Penderfyniadau yn ymwneud â dyfodol swyddfa Bae Colwyn a phresenoldeb y Senedd yng ngogledd Cymru; a

cheisio barn yr Aelodau i ddeall yn well pa waith ymgysylltu y maent am fwrw ymlaen ag ef.


Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adolygiad Cyllideb y Comisiwn 2023-24

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21

Cofnodion:

Wrth gyflwyno Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24 i’w chymeradwyo ym mis Tachwedd 2022, ymrwymodd y Comisiwn i gynnal adolygiad yn ystod y flwyddyn i nodi a chynnig mesurau i leihau lefel gyffredinol y gyllideb ar gyfer 23-24, gan ystyried y cyd-destun economaidd ehangach.  

Clywodd y Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed o ran adolygu cyllideb ‘23-24 a thrafodwyd y meysydd sy’n cael eu hystyried ar gyfer lleihau’r gyllideb yn 2023-24.

Nododd y Comisiynwyr y dull o weithredu a’r cynnydd a wnaed o ran y cynigion i sicrhau arbedion ar lefel gwasanaethau, gan nodi bod arbedion posibl yn dod i’r amlwg yn y meysydd a ganlyn:

-    Costau a mesurau arbed ynni ystadau a chyfleusterau.

-    Proses gadarn o aildrafod contractau TGCh.

Nododd y Comisiynwyr y dull o weithredu a’r cynnydd a wnaed o ran yn y cynigion i sicrhau arbedion ar lefel gorfforaethol i leihau Cronfa Brosiectau’r Comisiwn.

Nododd y Comisiynwyr y byddai’r opsiynau a oedd wedi’u hargymell, o’u gwireddu’n llawn, yn arwain at arbedion o oddeutu £435,000 at ei gilydd, gan sicrhau gostyngiad o 3.4 y cant yn y cynnydd cyffredinol yn y gyllideb (o’i chymharu â chyllideb atodol gyntaf 2022-23)  a fyddai’n llai na’r 4.1% y cytunwyd arno’n wreiddiol.

,aRoedd hyn yn dangos bod dewisiadau anodd yn eu hwynebu, a byddai hyn yn arwain at lai o hyblygrwydd, er enghraifft i allu ymateb i geisiadau Aelodau am weithgarwch neu gymorth ychwanegol.

Yn amodol ar y penderfyniadau terfynol a wneir yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Mawrth, bydd canlyniad y gwaith hwn yn arwain at Gyllideb Atodol ddrafft gyntaf 2023-24.

Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai opsiynau posibl eraill i arbed arian ac i weithio’n fwy effeithlon yn cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith cynllunio tymor canolig ar gyfer cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2024-25 a’r ddwy flynedd ddilynol.


Cyfarfod: 23/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

NDM8137 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Llythyr gan Gomisiynydd y Cyllideb a Lywodraethu i’r Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8137 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 - Tynnwyd yn ôl

NDM8124 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl


Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Ymateb i'r Pwyllgor Cyllid ynghylch y Gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29
  • Cyfyngedig 30
  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith ar Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 yn dilyn sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref.

Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb y Comisiwn i’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, gan nodi’r adroddiad hwnnw hefyd, cyn cymeradwyo’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24, sydd i’w gosod cyn Cynnig y Gyllideb a fydd yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd 2022.

Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y dylai Cyllideb Derfynol y Comisiwn ar gyfer 2023-24 gynnwys geiriad ychwanegol (“a’r llog a geir ar falansau gweithredol”) a bod cyfeiriad at y newid hwn yn cael ei gynnwys yn y llythyr mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2023-24. Gwneir hyn i adlewyrchu effaith y cynnydd yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

Hefyd, nododd y Comisiynwyr y llythyr at y Pwyllgor Cyllid yn rhoi rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn graffu.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 34
  • Cyfyngedig 35
  • Cyfyngedig 36
  • Cyfyngedig 37
  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cyllideb Ddrafft 2023-24 i’r Comisiynwyr a oedd yn tynnu sylw at newidiadau ers cyfarfod y Comisiwn ar 11 Gorffennaf 2022. 

 

Bu’r Comisiynwyr yn ystyried goblygiadau’r cynnig i wrthdroi’r cynnydd dros dro o 1.25% yng nghyfraddau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr o 6 Tachwedd 2022 a chanslo cyflwyno treth yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2023.

 

Cymeradwyodd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2023-24 i’w gosod gyda diwygiadau i adlewyrchu’r cynnig i ganslo cyflwyniad treth yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2023. Roedd hynny’n golygu cynnydd o 5.06% yng nghyllideb weithredol y Comisiwn rhwng 2022-23 a 2023-24 (3.8% heb gynnwys Diwygio’r Senedd), a’r cynnydd yn y gyllideb gyffredinol o 4.06% rhwng 2022-23 a 2023-24; cyfanswm cyllideb o £67.642 miliwn.

 

At hynny, nododd y Comisiwn ddatganiad o egwyddorion (dim newid ers 2019) y Pwyllgor Cyllid, a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2023-24

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y strategaeth ddrafft ar gyfer 2023-24 i benderfynu ar y dull o nodi cyllid y Comisiwn yng nghyd-destun paratoi ar gyfer Diwygio'r Senedd a phwysau eraill. Myfyriwyd y byddai'r cyd-destun hwn yn gofyn am rywfaint o feddwl ystwyth er mwyn atal effeithio'n andwyol ar wasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn.

Cytunodd y Comisiynwyr ar Fodel B fel sail ar gyfer y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd yn y ddogfen gyllideb ddrafft, ac Opsiwn 3 ar gyfer ei dull cyllidebol a ffefrir ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol y nodwyd eu bod yn ymwneud â Diwygio’r Senedd ar gyfer 2023-24 ac yn dilyn yr adolygiad y cytunwyd arno o’r capasiti presennol. Y dull fyddai cynnwys unrhyw gostau ychwanegol net fel llinell wrth gefn wedi'i neilltuo; i’w ddefnyddio at ddibenion Diwygio’r Senedd yn unig, os bydd angen.

Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y bydd cyllidebau staff a rhai nad ydynt yn staff ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn adlewyrchu codiadau cyflog a chodiadau chwyddiant, y byddai costau sy’n gysylltiedig â Diwygio’r Senedd yn parhau i gael eu cynnwys fel symiau wedi’u neilltuo yn y dyfodol, a byddai costau Diwygio’r Senedd ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn adlewyrchu’r costau staffio y disgwylir iddynt gychwyn yn 2023-24 a chostau cyfalaf yn unig.

Byddai hyn yn golygu nad yw unrhyw gostau adnoddau/staff ychwanegol e.e. a allai gychwyn yn 2024-25 neu 2025-26, yn cael eu cynnwys. Fodd bynnag, byddai naratif ychwanegol yn cael ei gynnwys yn nogfen y gyllideb i gefnogi'r costau ychwanegol hyn, i egluro’r ansicrwydd sy'n gynhenid yn y ffigurau, i egluro pam nad yw costau penodol wedi'u cynnwys ac i nodi pryd y bydd y costau adnoddau/staffio hyn yn y dyfodol ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn hysbys gyda mwy o sicrwydd.

Caiff cyllideb ddrafft y Comisiwn ei gosod a'i chyhoeddi yn unol ag amserlen ofynnol y gyllideb.


Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 2023-24

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr wybodaeth gefndir i lywio eu syniadau ynghylch paratoi ar gyfer ei chyllideb ar gyfer 2023-24, a nodwyd y pwysau sy'n debygol o gael effaith.

Rhagwelir y cynhelir ystyriaeth bellach ym mis Gorffennaf. Bydd y Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Medi.