Cyfarfodydd

NDM7831 Debate on a Member's Legislative Proposal - Rent control

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) - Rheolaethau rhent

NDM7831Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;

b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;

c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.

Cefnogwyr

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7831 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;

b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;

c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

22

15

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd  y cynnig.