Cyfarfodydd

P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Papur i'w nodi - P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am ymateb i gwestiynau ychwanegol y deisebydd.

 


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r deisebydd yn un o'i etholwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros i weld a fydd y mater yn cael ei drafod fel rhan o waith y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai; ac,
  • yn y cyfamser, ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn beth sy’n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl o ran y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).

 


Cyfarfod: 16/11/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-06-1272 – Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-06-1272 – Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ofyn a ellir ystyried y pryderon a godwyd yn y ddeiseb fel rhan o'u hymchwiliad i ddigartrefedd.

 

At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, er mwyn tynnu sylw at y pryderon nad yw’r rheini sydd heb gytundeb tenantiaeth yn cael unrhyw amddiffyniad, ac i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn.

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd ac yn y Bumed Senedd cyhoeddodd adroddiad gyda nifer o elusennau, yn y sector tai a digartrefedd ac yn y sector lles anifeiliaid, o'r enw 'paw-licy' anifeiliaid anwes.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ragor o eglurhad ar y pwyntiau a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys:

 

  • a fydd canllawiau ynghylch yr hyn a fyddai’n cael ei ystyried yn ‘rhesymol’, ac a yw’n cyfeirio at unrhyw ffurf ar ddatrys anghydfod os na all /nad yw’r landlord a’r tenant yn cytuno o ran anifeiliaid anwes;
  • sut mae'r Ddeddf yn mynd i'r afael â'r ffaith bod llawer o hysbysebion ar gyfer eiddo rhent yn datgan yn benodol 'dim anifeiliaid anwes', cyn bod modd cynnal unrhyw sgyrsiau ynghylch a fyddai darpar denant ag anifail anwes yn 'rhesymol'; a
  • pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod am eu hawliau o dan Ddeddf Defnyddwyr 2015, a ddylai atal landlordiaid rhag gwrthod yn afresymol geisiadau tenantiaid i gadw anifeiliaid anwes, a pha gymorth fydd ar gael i’r tenantiaid hynny.