Cyfarfodydd

P-06-1271 Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1271 Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod galwad y ddeiseb i’r tir gael ei gaffael gan Network Rail i ddatblygu llwybr, bellach yn mynd rhagddo, gyda thrafodaethau ac archwiliadau o unrhyw faterion cyfreithiol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn digwydd hefyd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1271 Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog i ofyn a allai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd swyddogion wedi trafod y trefniadau cynnal a chadw a’r cynlluniau ar gyfer gwelliannau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.