Cyfarfodydd

P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac er na all Llywodraeth Cymru ddynodi gwyliau cenedlaethol, cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru godi’r mater hwn fel rhan o unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU yn y dyfodol. Hefyd, nodwyd bod yr holl drychinebau mewn glofeydd wedi’u coffáu yn Ardd Goffa Genedlaethol a Chyffredinol y Glowyr. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn iddi ystyried ymhellach y cais am ddiwrnod cofio neu ddiwrnod coffa ar gyfer y rhai a laddwyd mewn trychinebau diwydiannol a thrychinebau mwyngloddio yn hytrach na gŵyl banc ddynodedig.