Cyfarfodydd
P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 43 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- Gohebiaeth gan y Prif Weinidog, 18 Tachwedd 2022, Eitem 3 PDF 143 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac er na all Llywodraeth
Cymru ddynodi gwyliau cenedlaethol, cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru godi’r
mater hwn fel rhan o unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU yn y dyfodol.
Hefyd, nodwyd bod yr holl drychinebau mewn glofeydd wedi’u coffáu yn Ardd Goffa
Genedlaethol a Chyffredinol y Glowyr. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan.
Dogfennau ategol:
- Papur briffio Ymchwil y Senedd, Eitem 3 PDF 158 KB Gweld fel HTML (3/1) 65 KB
- Gohebiaeth gan y Prif Weinidog, 29 Ebrill 2022, Eitem 3 PDF 143 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n
ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn iddi ystyried ymhellach y cais am ddiwrnod cofio
neu ddiwrnod coffa ar gyfer y rhai a laddwyd mewn trychinebau diwydiannol a
thrychinebau mwyngloddio yn hytrach na gŵyl banc
ddynodedig.