Cyfarfodydd

NDM7971 Welsh Conservatives debate - Supporting pharmacists

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cefnogi fferyllwyr

NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd

2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.

3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;

b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio

c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd. 

2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.

3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;

b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio; 

c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.