Cyfarfodydd

Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/04/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Datganiad i'r wasg gan Travelling Ahead - darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.17a Nododd y Pwyllgor y datganiad i’r wasg.

 


Cyfarfod: 18/04/2024 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus - darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.16a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 26/10/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip – Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin / Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 05/10/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 9)

9 Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Stuart Evans, Pennaeth Ras; Ffydd a chred; Polisi Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro - Cymunedau a Threchu Tlodi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Stuart Evans, Pennaeth Hil; Ffydd a Chred; Polisi Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cymunedau a Threchu Tlodi

Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

 

 


Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip - Darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 28/06/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan Teithio Ymlaen - Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2a Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o’r llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.

 


Cyfarfod: 24/05/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

NDM8139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

NDM8139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 12/10/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar y ddarpariaeth o safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar y ddarpariaeth o safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

 


Cyfarfod: 13/07/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 07/07/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd ar nifer o newidiadau.

 


Cyfarfod: 22/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – sesiwn dystiolaeth 5: Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Chrishan Kamalan, Pennaeth Polisi Hil a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Llywodraeth Cymru

James Searle, Pennaeth y Tîm Trosedd a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Chrishan Kamalan, Pennaeth Polisi Hil a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Llywodraeth Cymru

James Searle, Pennaeth y Tîm Trosedd a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

 

2.2.  Cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i rannu â’r Pwyllgor y llythyr y bydd yn ei anfon at arweinwyr y cynghorau ynghylch Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac i ddarparu rhagor o wybodaeth am bartneriaeth Llywodraeth Cymru â’r Sefydliad Banc Tanwydd.

 


Cyfarfod: 22/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.


Cyfarfod: 09/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 4

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Materion Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaladwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Pennaeth Polisïau - Gwella a Llywodraethu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cofnodion:

6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

6.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu’r canlynol:

·         ffigurau ar gyfer y safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr lle mae cais am ganiatâd cynllunio wedi llwyddo, a’r tir a brynwyd wedi hynny

·         ffigurau ar gyfer y blynyddoedd o hyfforddiant i gynghorwyr ledled Cymru ynglŷn â darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, fel yr amlinellir yng nghynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru

·         nodyn i egluro nifer y safleoedd tramwy yng Nghymru

·         nodyn ar enghreifftiau o arfer gorau ymysg awdurdodau lleol o ran ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ynglŷn â darparu safleoedd.

 


Cyfarfod: 09/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 8)

Ymchwiliad i ddarpariaeth safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3, 4 a 6

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.

 


Cyfarfod: 09/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 3

Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Heddlu Gogledd Cymru

Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys

 

 

Cofnodion:

4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Heddlu Gogledd Cymru

Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys

 

4.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes i ddarparu copi o dull pum cam Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer ymgysylltu â chymunedau, sef yr hyn a ddefnyddiwyd cyn gweithredu deddfwriaeth yn ystod y pandemig Covid.

 

4.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Dafydd Llywelyn i ddarparu’r canlynol:

·         nodyn briffio yn ymwneud â nifer y gwersylloedd anghyfreithlon sydd gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru;

·         gwybodaeth bellach yn ymwneud â fforwm ieuenctid cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn sir Benfro.

 


Cyfarfod: 09/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Jo Richardson, Deon Cyswllt Ymchwil ac Arloesedd / Athro ym maes Tai ac Ymchwil Gymdeithasol, Prifysgol De Montfort

Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, BASW Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Yr Athro Jo Richardson, Deon Cyswllt Ymchwil ac Arloesedd / Athro ym maes Tai ac Ymchwil Gymdeithasol, Prifysgol De Montfort

Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, BASW Cymru

 

3.2. Yn ystod y dystiolaeth, cytunodd yr Athro Jo Richardson i ddarparu’r canlynol:

·         copi o'r adroddiad a luniwyd ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree;

·         copïau o'r adroddiadau sy'n cynnwys enghreifftiau o arferion gorau awdurdodau lleol.

 

3.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Allison Hulmes i ddarparu copi o ymchwil a gynhaliwyd yn 2022 gan “The British Journal of Social Work” yn ymwneud â gor-gynrychiolaeth plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau lles plant neu sy’n derbyn gofal y wladwriaeth.

 


Cyfarfod: 18/05/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a thrafod gwaith yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 18/05/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – sesiwn dystiolaeth 1

Trudy Aspinwall, Rheolwr Tîm, Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Assia Kayoueche, Swyddog Cyfathrebu, Ymgyrchoedd ac Aelodaeth, Cynghrair Hil Cymru

Jasmine Jones, Gypsies and Travellers Wales

Martin Gallagher, Actifydd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ysgrifennwr ac ymchwilydd academaidd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Trudy Aspinwall, Rheolwr Tîm, Travelling Ahead: Gwasanaeth Cynghori ac Eirioli Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Assia Kayoueche, Swyddog Cyfathrebu, Ymgyrchoedd ac Aelodaeth, Cynghrair Hil Cymru

Jasmine Jones, Sipsiwn a Theithwyr Cymru

Martin Gallagher, actifydd, awdur ac ymchwilydd academaidd ym maes Sipsiwn, Roma a Theithwyr

 


Cyfarfod: 30/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod y gwaith ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith ymgysylltu mewn perthynas â’r ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

 


Cyfarfod: 23/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 4)

4 Trafod dull o weithio mewn perthynas â darparu safleoedd ar gyfer sipsiwn, roma a theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull o weithio mewn perthynas â darparu safleoedd ar gyfer sipsiwn, roma a theithwyr.

 


Cyfarfod: 09/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Llythyr gan Teithio Ymlaen mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Teithio Ymlaen mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a chytunodd i wneud gwaith ar y mater yn y dyfodol.