Cyfarfodydd
P-06-1267 Creu system adalw ar gyfer Aelodau o'r Senedd sy'n perfformio'n wael
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
4 P-06-1267 Creu system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd sy’n perfformio’n wael
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i anfon y
ddeiseb at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd er mwyn i aelodau’r
Pwyllgor hwnnw ei hystyried fel rhan o’u trafodaethau presennol ynghylch ethol
Aelodau o’r Senedd yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd.