Cyfarfodydd

P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei fod yn fater o gyllid, ac mai cyfrifoldeb ysgolion a llywodraeth leol oedd cydweithio ar lwybrau diogel i'r ysgol. Roedd yr Aelodau’n cydymdeimlo â’r materion sy’n wynebu plant sy’n gorfod teithio’n bell mewn amodau gwael, a nodwyd y bu gweithgarwch sylweddol mewn perthynas â theithio gan ddysgwyr ers i’r ddeiseb gael ei hystyried gyntaf ym mis Ebrill 2022, gan gynnwys adroddiadau gan Lywodraeth Cymru a Phwyllgor y Senedd.

Nododd y Pwyllgor fod gwaith ar drafnidiaeth bysiau i rai dan 18 oed yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn sgil hynny, a’r ymateb i argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor ynghylch y gwaith sy’n mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun / P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd / P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y byddai'n cynnal trafodaeth bwrdd crwn undydd yn y flwyddyn newydd gyda rhanddeiliaid perthnasol ynghylch gwasanaethau bws.

 


Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bo Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r mater hwn.