Cyfarfodydd

P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru Cefndir

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi gwneud rhywfaint o waith manwl yn ddiweddar ar adolygu’r rheoliadau, ac wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Yn sgil y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ar y mater, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.


Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wrthi’n cynnal adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, i ofyn a oedd modd trafod y materion a gododd y ddeiseb fel rhan o’r gwaith hwnnw.