Cyfarfodydd

P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd blaenraglen waith y Pwyllgor Diben Arbennig Covid ar gael.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd nad yw’r Prif Weinidog wedi newid ei farn ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor – o ystyried testun emosiynol y ddeiseb hon – y byddent yn ei gadael yn agored ac yn dychwelyd ati ymhen blwyddyn.

 


Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd bod hwn yn fater hynod emosiynol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu'n ôl at y Prif Weinidog yn gofyn iddo roi ymateb wedi'i ddiweddaru i'r Pwyllgor gan fod y wybodaeth ddiweddaraf am rôl Prif Weinidog y DU ynghylch y cylch gorchwyl wedi dod i law.