Cyfarfodydd

P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y mater yn waith sy’n mynd rhagddo ac nad oes llawer o waith pellach y gallant ei wneud fel Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd.


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto yn gofyn am ddata manylach i weld a oes ysgolion neu awdurdodau lleol penodol lle mae'r cyflymder cyfartalog yn arafach nag y dylai fod.