Cyfarfodydd
NDM7963 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diogelwch Bwyd
NDM7963 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y
genedl.
2. Yn nodi'r effaith
negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia
ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn credu bod angen
chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull
uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a
manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu
ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) defnyddio'r Bil
Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y
cyhoedd;
c) gwneud diogelwch
bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan
gynnwys cymhellion;
d) cefnogi'r Bil Bwyd
(Cymru) arfaethedig.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle:
Yn gresynu mai'r
bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng
Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) ddatblygu
Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a
chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid
cadarnhaol yn ein system fwyd;
b) creu system newydd
o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n
gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli
Tir yn Gynaliadwy.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 eu ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd
ffermydd teuluol bach cynhyrchiol o ran cynnal yr economi, yr iaith a'r
diwylliant yng nghefn gwlad Cymru.
Yn credu y bydd
toriadau i gyllid amaethyddol Cymru gan Lywodraeth y DU, ynghyd â Chytundebau
Masnach Rydd newydd gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, yn cael
effaith negyddol bellach ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd a chynhyrchu bwyd yng
Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cynnull
uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a
manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu
ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) amddiffyn diogelwch
bwyd a chynhyrchu bwyd drwy ddarparu taliadau sefydlogrwydd fel rhan o'r
cynllun cymorth ffermio nesaf;
c) datblygu ffyrdd o
leihau costau mewnbwn i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, er mwyn lleihau cost y
bwyd y maent yn ei gynhyrchu i ddefnyddwyr.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7963 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y
genedl.
2. Yn nodi'r effaith negyddol
ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar
Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn credu bod angen chwyldro
amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd
gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru
chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) defnyddio'r Bil
Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y
cyhoedd;
c) gwneud diogelwch bwyd yn
gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys
cymhellion;
d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru)
arfaethedig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu
a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid
cadarnhaol yn ein system fwyd;
b)
creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd
lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd
Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
23 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Gan dderbynnir gwelliant 1, cafodd gwelliant
2 eu ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7963 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y
genedl.
2. Yn nodi'r effaith negyddol
ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar
Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn gresynu mai'r bygythiad
mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru
heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu Strategaeth Bwyd
Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng
Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system
fwyd;
b) creu system newydd o gymorth
i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn
ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn
Gynaliadwy.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
13 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.01 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.