Cyfarfodydd

Diogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/12/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Phlismona yng Nghymru ynghylch rhaglenni cyflawnwyr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/10/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a'r system ofal i blant yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/10/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau llawfeddygol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch dulliau Iechyd y Cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod eu sesiwn gyda'r grŵp cynghori.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: Grŵp cynghori

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyfarfu'r Aelodau â'r grŵp cynghori.

 


Cyfarfod: 27/02/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 10)

10 Atal trais ar sail rhywedd: Papur dulliau ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y papur dulliau ymgysylltu cyn cytuno arno.

 


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Trais yn Seiliedig ar Rywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau gan Johanna Robinson ac Yasmin Khan yn y gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Trais yn Seiliedig ar Rywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.

 


Cyfarfod: 20/06/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cynghorydd/Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Trais yn Seiliedig ar Rywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 9)

9 Blaenraglen waith

Blaenraglen waith

Diogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd: cylch gorchwyl diwygiedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith a chytunwyd arni.

 

 


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

Sylwadau i gloi

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu cyfraniadau a chaeodd y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

Adborth o’r sesiynau grŵp

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd pob grŵp wybod beth oedd eu canfyddiadau allweddol.

 


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

Trafodaethau grŵp

Cofnodion:

3.1 Ymunodd y cyfranogwyr â’r ystafelloedd trafod i drafod y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad i ddiogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd. Dyma gylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad:


– Profiad a chanfyddiad menywod a merched o drais ac aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn dinasoedd, mewn ysgolion, mewn mannau gwyrdd ac ati. Yr angen / posibilrwydd o ran deddfwriaeth yn y dyfodol i wneud menywod a merched yn fwy diogel yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

 

– Trais yn erbyn menywod a merched yn y cartref, gan gynnwys ymdriniaeth/ dealltwriaeth yr heddlu o’u dyletswydd (ar gais y fenyw) i ymyrryd mewn sefyllfaoedd o drais domestig, hyd yn oed pan fo’n digwydd yn y cartref.

 

– Ffocws ar grwpiau a materion sydd wedi'u hesgeuluso, i ddeall yn well sut mae trais yn wahanol i rannau gwahanol o'r boblogaeth, yn benodol menywod â statws mewnfudo ansicr, neu’r rhai y mae eu statws mewnfudo yn dibynnu ar briod neu gyflogwr.

 

– Cwmpas, cyrhaeddiad a’r broses o gomisiynu gwasanaethau ac ymyriadau ar gyfer goroeswyr yng Nghymru, ac unrhyw effaith y mae pandemig COVID-19 wedi’i chael ar sefydliadau trydydd sector sy’n darparu llochesi, cymorth cyfreithiol a gwasanaethau cymorth.

 

– Dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran atal cychwynnol, ac a wneir digon o ymdrech i atal trais cyn iddo ddigwydd drwy weithio gyda grwpiau allweddol (fel dynion, glasoed a phlant sydd wedi bod yn dyst i gamdriniaeth), ac i newid normau diwylliannol a chymdeithasol sy’n ategu trais ar sail rhywedd.

 

– A yw dyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddigonol i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a gweithredu cam nesaf ei strategaeth genedlaethol ar gyfer 2022-26, gan gynnwys ystyried a gafwyd buddsoddiad cost-effeithiol mewn adnoddau i gryfhau arbenigedd mewn sectorau allweddol ac i wella tagfeydd o ran darparu gwasanaethau (h.y. er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau polisi i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched).

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Sylwadau agoriadol a chroeso gan y Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyfranogwyr i'r cyfarfod.

 


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 1)

Cofrestru

Cofnodion:

1.1 Cofrestrodd y cyfranogwyr ar gyfer y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rôl byrddau iechyd o ran diogelu menywod a phlant a allai fod yn dioddef cam-drin domestig

Dogfennau ategol: