Cyfarfodydd

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024–25

NDM8952 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM8952 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 30/06/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2024-25

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

Adolygodd y Comisiynwyr yr Adroddiad Blynyddol drafft ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, sy’n manylu’r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod 2024-25, i ganiatáu i’r Comisiwn gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.

Mae'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd “osod adroddiad gerbron y Senedd yn nodi sut y mae'r Comisiwn wedi rhoi'r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn dan sylw”. 

Diolchodd y Comisiynydd â’r portffolio Ieithoedd Swyddogol i’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi, a chynigiodd rai pwyntiau ychwanegol i’w nodi, a dderbyniwyd gan y Comisiynwyr eraill ac a fyddai’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol.

Derbyniodd y Comisiynwyr yr adroddiad blynyddol drafft (yn amodol ar yr ychwanegiadau a gynigiwyd) a nodwyd y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar-lein a bydd cynnig yn cael ei gyflwyno gan y Llywydd i alluogi'r ddadl ofynnol yn y Cyfarfod Llawn i ddigwydd ar 9 Gorffennaf.


Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adolygiad o’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn cyflwyno rhai syniadau ynghylch ieithoedd swyddogol y Senedd a Chomisiwn y Senedd, a ysgogwyd gan fyfyrdodau’r Comisiynydd sy’n gyfrifol am y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, a hynny’n dilyn ymrwymiad i barhau i fonitro a chwilio am ffyrdd o ddileu’r pethau sy’n rhwystro’r defnydd o’r Gymraeg yn nhrafodion y Senedd.

Nododd y Comisiynwyr y pecyn o newidiadau ymarferol sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd â Chadeiryddion Pwyllgorau a thimau ac mewn perthynas â chyfarfodydd pwyllgor. Nodwyd hefyd y sicrwydd a roddwyd y bydd gwaith paratoi gan y Comisiwn ar gyfer diwygio’r Senedd yn rhoi sylw dyledus i faterion sy’n ymwneud ag iaith.

Cytunodd y Comisiynwyr i gynnal arolwg/archwiliad iaith i ddeall sut y gellir cefnogi’n well yr Aelodau a’u staff sy'n siarad y Gymraeg neu’n ei dysgu i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, yn unol â’r hyn sydd yn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Cytunwyd hefyd i ystyried yr ethos presennol, hybu a darparu gwasanaethau mewn perthynas ag ieithoedd swyddogol y Senedd ynghyd â’r fframwaith cyfreithiol ategol fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd.


Cyfarfod: 10/07/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 4)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

NDM8633 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2023-24, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Mehefin 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

NDM8633 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2023-24, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Mehefin 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 20/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

NDM8354 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2022-23, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

NDM8354 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2022-23, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 05/07/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022–23 - Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon


Cyfarfod: 08/06/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Eitem 9)

9 Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd: Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft

Llythyr gan Rhun ap Iorwerth AS, Comisiynydd, at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Gohebiaeth ddrafft gan y Cadeirydd: I’w hystyried

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1    Ystyriodd y Pwyllgor y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda'i farn.